Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Llangynllo yn 1903  
  Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1903.
Mae gan y pentref ei felin yd, gofaint a thafarn ac er bod y gymuned yn edrych yn debyg iawn i’r ffordd yr oedd yn edrych yn 1840 mae yna rai newidiadau wedi digwydd yn Llangynllo yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
 
map of Llangunllo in 1903
 

1. Er bod yna ysgol i’w chael rhywle yn y pentref yn 1841, bellach mae yna ysgol newydd i bob plentyn lleol. Roedd hyn yn bwysig oherwydd roedd yn rhoi addysg go iawn i blant ac roedd plant dawnus yn gallu cael mwy o gyfleoedd mewn bywyd yn hytrach na dim ond gweithio ar y tir.

 
 

2. 2. Mae capel Anghydffurfiol wedi’i adeiladu yn yr ardal yn rhoi dewis arall i bobl leol o ran lle i fynd i addoli ar wahân i’r eglwys leol.

Cymharwch gyda Llangynllo tua 1840...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd