Tref-y-clawdd
a'r cylch Mae canlyniadau
cyfrifiad 1841 yn dweud wrthym pwy oedd yn byw ac yn gweithio
yma bryd hynny. Roedd gan y pentref bychan yma hyd yn oed amrediad llawn
o grefftwyr yn gweithio ynddo. Roedd yna 4 gwneuthurwr olwynion, saer
maen, saer, gofaint a llifwr. Roedd yna hefyd 4 crydd i gyflenwi anghenion
y bobl leol !
Edward Davies, 27 mlwydd oed oedd
yn cadw tafarn y pentref ac mae’r
cyfrifiad yn dynodi fod yna hefyd ysgol o ryw fath oherwydd roedd ysgol
feistr o’r enw Samuel Morgan 65 mlwydd oed, yn byw yno. Yn ôl i ddewislen
map Tref-y-clawdd
Mapiau
Fictoriaidd
Llangynllo
tua 1840
Mae’r map
a welwch chi yma’n seiliedig ar fap y degwm tua 1840
ac mae’n rhoi syniad i ni o bentref Llangynllo
ar ddechrau cyfnod Fictoria.
Wrth edrych ar y map gallwn weld fod y gymuned fechan yma wedi datblygu
mewn man cyfleus i groesi’r afon dros yr Afon Lugg.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys
Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo.
Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.