Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Bleddfa yn 1903  
  Mae’r map a welwch chi yma yn ddarn o fap a luniwyd ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1903.
Mae mwy o fanylion arno na map o’r 1840au, gallwn weld mwy o’r pentref a rhai o’r newidiadau sydd wedi digwydd yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.
 
Bleddfa in 1903
 

1. Efallai mai ysgol y pentref oedd y newid pwysicaf. Erbyn diwedd teyrnasiad Fictoria roedd holl blant y plwyf yn cael addysg, hyd yn oed y rheini o’r teuluoedd tlotaf. Roedd hyn yn golygu fod ganddynt fwy o gyfleoedd wedi iddynt dyfu. Yn hytrach na pheidio â chael unrhyw bosibilrwydd o fywyd yn unrhyw le heblaw am weithio ar y tir, roedd plant yn cael digon o addysg i’w galluogi hwy i wneud rhywbeth gwahanol gyda’i bywydau os oeddynt eisiau...

 
 

2. Mae’r llinell doredig ar waelod y map yn dangos llinell y draphont ddwr o gronfeydd Cwm Elan i Firmingham. Daeth yr adeiladu â gwaith i gymunedau bychain Sir Faesyfed lle’r oedd y dwr yn myned trwodd.

Cymharwch gyda Bleddfa yn 1840...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd