Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Bleddfa tua 1840  
  Mae’r map a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm tua 1840 ac mae’n rhoi syniad da i ni o bentref Bleddfa ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
O’r map yma gallwn weld fod y gymuned fechan yma wedi datblygu ar fan lle y mae’r ffyrdd sy’n mynd i gyfeiriad y Gorllewin i mewn i Gymru yn croesi tir uchel.
 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Bleddfa around 1840
 

Mae canlyniadau cyfrifiad 1841 yn dweud wrthym pwy oedd yn byw ac yn gweithio yma bryd hynny. Roedd hyd yn oed y plwyf bychan hwn yn gymuned oedd yn ffynnu. Gweithwyr fferm oedd y rhan fwyaf o’r trigolion ond roedd yna ffyrdd eraill o ennill bywoliaeth.
Roedd yna 2 grydd a 2 saer. Yn y felin yn y pentref roedd y melinwr John Evans yn byw gyda’i wraig ifanc ac un plentyn. Richard Hamer oedd yn cadw tafarn yr ‘Old Hundred House’, ac roedd yna beiriannydd yn lletya yno ar y pryd.

Cymharwch gyda Bleddfa yn 1903...
 
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd