Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Bugeildy yn 1903  
  Mae’r map a welwch chi yma yn rhan o fap ar raddfa 6 modfedd = 1 filltir yn 1903.
Cymuned fechan iawn yw pentref Bugeildy o hyd ac nid yw’n edrych yn wahanol iawn i’r pentref a welwn ni ar fap o’r 1940au. Er hynny gallwn weld fod yna rai newidiadau wedi digwydd i Bugeildy yn ystod teyrnasiad hir y Frenhines Fictoria.
 
map of Beguildy in 1903
 

1. Mae’r map yma hefyd yn dangos fod yna ysgol newydd yn y pentref wrth ymyl y ffordd. Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria byddai pob un o’r plant lleol wedi cael addysg nes eu bod yn 13 mlwydd oed. Byddai’r rhan fwyaf o’r plant lleol wedi treulio eu holl ddyddiau ysgol yn yr un adeilad bach yma. Byddai’r addysg yr oeddynt yn ei dderbyn yn agor cyfleoedd newydd ar eu cyfer.

 
  2. Mae Swyddfa Bost a siop wedi’u hadeiladu. Byddai hyn wedi bod yn bwysig iawn i’r gymuned mewn man gweddol anghysbell. Erbyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd mwy o bobl yn gallu darllen ac felly roedd ysgrifennu llythyron yn ffordd dda o gadw mewn cysylltiad.  
 

3. Mae ficerdy mawr newydd wedi’i adeiladu ar gyfer ficer y plwyf mawr yma sy’n ymestyn o Gnwclas i Grygybyddar.

Cymharwch gyda Bugeildy yn 1840au...

 
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd