Tref-y-clawdd
a'r cylch Roedd gan y pentref ofaint o’r enw
George Phillips 45 mlwydd oed yn 1841.
Yr ‘Oxford Arms‘ oedd tafarn y pentref
oedd yn cael ei gadw gan Alexander Joseph a’r ficer oedd Richard Hamer. Yn ôl i ddewislen
map Tref-y-clawdd
Mapiau
Fictoriaidd
Bugeildy
tua 1840
Mae’r map
a welwch chi yma yn seiliedig ar fap y degwm yn yr 1840au
ac mae’n rhoi syniad da i ni o bentref Bugeildy
ar ddechrau cyfnod Fictoria. Roedd pobl yn ystod y cyfnod yn aml iawn yn
cyfeirio ato fel Llanfihangel Bugeildy.
O’r map gallwn weld mai cymuned fechan ar y ffin oedd hon ym mhen uchaf
dyffryn ‘Teme’. Ni luniwyd y map gyda Gogledd ar y pen ond rydym wedi’i
droi o gwmpas fel ei bod yn haws i’w gymharu gyda’r map diweddarach.
MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bron iawn bawb dalu’r degwm i Eglwys
Lloegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm yn dreth ar eich eiddo.
Lluniwyd mapiau er mwyn gweld pwy oedd yn berchen ar ba eiddo.
Roedd y
rhan fwyaf o bobl yn y plwyf yn byw ar ffermydd
a bythynnod gwasgaredig.
Er y byddai’r ardal wedi ymddangos yn anghysbell ar ddechrau cyfnod Fictoria,
fe fyddai ganddi grefftwyr a byddai pobl yn byw bywydau cyfan heb ymweld
â thref fawr.