Y Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd ysgol
  Profion sillafu a rhifyddeg  
 

Nid yw’r Dyddlyfrau yn rhoi llawer o fanylion am y gwersi yn y dosbarth, ond y mae rhai cyfeiriadau at y profion arferol a gawsai’r plant. Mae’r ddwy enghraifft ar y dudalen hon o Ysgol Genedlaethol Llyswen

 
School diary entry
 

9 Chwefror 1871 - "No child had more than one mistake in spelling at the dictation lesson".
Mae Dyddlyfr 1875 yn cynnwys esiamplau o’r symiau a osodwyd i’r plant hynaf. Fe welwch un o’r rhain isod.

 
Ysgol Genedlaethol
Llyswen
School diary entry
 

14 Mai 1875 - "Examined Standard II [Class 2] in the following sums - 48,016 times 590, ..9,175,648 divided by 8, ..39,009,017 divided by 6. ..Results - 1 Right, 2 had 1 wrong, and 1 failed, only four being in the class, on account of so many having left".

Nid oedd yn syndod fod rhai o’r plant wedi gadael, os mai dyma’r math o symiau roeddynt yn gorfod eu gwneud!
Ond yn ystod oes Fictoria – ac am beth amser wedyn - mis Mai oedd amser y ‘Ffeiriau Hurio’. Dyna’r amser y byddai llawer o weision a morynion yn newid eu swyddi, a byddai’r rhai oedd wedi gadael yr ysgol yn mynd yno i chwilio am waith am y tro cyntaf.
Ond yn ôl at y symiau. Os ydych am wybod yr atebion – gofynnwch i’r athro! (Cofiwch, er bod pobl oes Fictoria wedi dyfeisio llawer o beiriannau anhygoel, doedden’ nhw ddim wedi meddwl am y gyfrifiannell eto!)
.

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli