Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd
ysgol
Plant ffermwyr a gweision | ||
Mae nodyn diddorol am faint o "Geiniogau
Ysgol" roedd yn rhaid i bawb eu talu yng nghofnodion Ysgol
Genedlaethol Llyswen. |
"Scale of Payments" Farmer's children..........4d
a week after the 1st two
children, Attention - |
The Mae’r papur yn dangos fod plant ffermwyr lleol yn gorfod talu pedair ceiniog yr wythnos (4c yn yr hen arian – punnoedd, sylltau a cheiniogau). Roedd plant gweision, a fyddai’n gweithio ar y ffermydd gan fwyaf, yn talu hanner hynny. Roedd yn bosib cael disgownt am nifer, a thalu hanner pris ar ôl y ddau blentyn cyntaf yn yr un teulu! Roedd y gorchymyn pendant "Attention - No arrears allowed !" yn golygu fod yn rhaid i’r arian gael ei dalu ar amser, ac ni fyddai plant yn cael dod i’r ysgol os oeddynt ar ôl yn talu’u ceiniogau ysgol! Ond roedd trefniadau arbennig ar
gyfer plant y tlawd iawn. |
||