Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
| Tafarnau a gwestai Oes Fictoria | ||
|
Mae Cyfeirlyfr Pigot o Dde Cymru yn cynnwys rhestr o dafarnau a’u landlordiaid yn ardal Y Gelli yn ystod blynyddoedd cynnar teyrnasiad Fictoria. Roedd y tafarnau oedd yn paratoi llety ar gyfer teithwyr y goets fawr (fel y White Swan a restrir yma) yn gorfod cyflogi llawer o bobl leol i redeg y dafarn. Roedd angen gweithwyr i lanhau’r ystafelloedd ac i edrych ar ôl y gwesteion. Byddai yno fechgyn i lanhau esgidiau’r teithwyr, ac ostler i edrych ar ôl y ceffylau. Byddai’r gogyddes a’i morynion yn brysur yn y gegin yn coginio ar gyfer y gwesteion. Gallwch weld felly fod y tafarnau lleol yn ffynhonnell waith bwysig iawn yn ystod Oes Fictoria.. |
||
| Hen lun o’r Rose and Crown trwy garedigrwydd Mr Eric Pugh | Roedd
y dafarn yn lle y gallai gweithwyr gael tipyn o adloniant ar
ddiwedd diwrnod caled o waith. Roedd rhai yn gweld cael tipyn o ddiod yn
ffordd i anghofio’u bywyd caled, ac yn oes Fictoria roedd llawer yn poeni
fod yna ormod o bobl yn meddwi. Gallai hyn arwain at ddynion yn cam-drin
eu gwragedd, neu deuluoedd tlawd yn gweld yr ychydig cyflog roedden nhw
yn ei ennill yn cael ei wario ar ddiod, yn hytrach nac ar fwyd a dillad
i’r plant. Trefnwyd Cymdeithasau Dirwest
i geisio perswadio dynion i beidio ag yfed ac nid oedd aelodau’r Eglwys
Fethodistaidd yn cael yfed alcohol o gwbl. |