Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Y Gelli yn 1887  
 

Mae’r llun isod wedi’i seilio ar fap Arolwg Ordnans a argraffwyd yn 1887 ar raddfa 6 milltir = 1 fodfedd. Wrth ei gymharu â’r map o’r Gelli o gwmpas 1836 gallwn weld rhai o’r newidiadau sydd wedi digwydd.

 

Hay in 1887
  1. Mae’r rheilffordd wedi dod i’r Gelli. Roedd hyn yn golygu bod mwy o gysylltiad â rhannau o’r wlad sydd ymhell i ffwrdd. Roedd y rheilffordd wedi helpu’r Gelli i ddatblygu fel marchnad. Edrychwch ar Graffiau Poblogaeth Y Gelli i weld effaith hyn .  
  2. Erbyn hyn mae gan y dref waith nwy sy’n gwneud nwy glo, ac yn cael ei bibellu i’r tai yn yr un ffordd â nwy heddiw. Roedd yn cael ei ddefnyddio gan fwyaf ar gyfer golau, ond efallai y byddai rhai tai yn ei ddefnyddio i goginio erbyn y cyfnod yma. Byddai llawer o fythynnod y gweithwyr cyffredin yn dal i gael golau o ganhwyllau a chanhwyllau brwyn yn 1887.  
  3. Er bod yna ysgolion yn Y Gelli ar ddechrau cyfnod Fictoria, mae’r map yn dangos dwy ysgol newydd. Mae un ar waelod y map yn ymyl y tloty, a’r llall wedi’i hadeiladu yn erbyn yr hen wal ddwyreiniol yn y dref. Yn 1887 roedd yn rhaid i’r plant lleol i gyd fynd i’r ysgol, ac roedd hyn yn effeithio ar fywyd y bobl leol. (Ewch i’r tudalennau ar ddyddiau ysgol oes Fictoria i gael mwy o fanylion am hyn.)  
  4. Roedd Undeb Cyfraith y Tlodion yn Y Gelli wedi’i sefydlu yn 1830, ac adeiladwyd tloty ar gwr y dref i roi llety i’r bobl dlawd oedd yn methu gofalu amdanynt eu hunain. Fel arfer, roeddynt yn bobl oedd yn rhy hen neu yn rhy wael i weithio, neu yn deuluoedd lle’r oedd y tad wedi eu gadael neu wedi marw oherwydd salwch. Roedd Undeb Y Gelli yn gofalu am rannau mawr o Sir Frycheiniog a de Sir Faesyfed.  
 

5. Nid oes dim adeiladau i’w gweld i’r de o Oxford Road ar fap 1836, ond gallwn weld y tai cyntaf i gael eu hadeiladu yma yng nghanol y perllannau ar ochr dde’r dref. Mae’r berllan fawr i’r de o’r castell yn faes parcio heddiw.

 
  Cymharwch â'r Gelli yn 1836..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli