Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Y Gelli tua 1836  
 

Mae’r map isod wedi’i seilio ar fap Arolwg Ordnans 1836 ar raddfa 1 fodfedd = 1 filltir. Rydym wedi chwyddo’r map er mwyn gweld mwy o fanylion. Mae’n rhoi syniad da i ni o’r dref ym mlynyddoedd cyntaf teyrnasiad Fictoria. Nid ydyw siâp tref Y Gelli wedi newid bron ddim ers iddi gael ei chreu yn yr oesoedd canol

 

Hay around 1836
  1.-Gellir gweld llinell y ffordd dram yn rhedeg trwy’r dref ar hyd lan yr Afon Gwy yn glir ar y map. Mae’r llythyren W sydd ar y map yn dangos ble roedd y lanfa. Yno roedd y tramiau’n cael eu llwytho a’u dadlwytho. (Ewch i’r tudalennau ar Ffordd dram i gael gwybod mwy.)  
  2.-Gellir gweld Castell Y Gelli’n glir ar ei domen.. Erbyn yr amser y lluniwyd y map hwn nid oedd y castell yn cael ei ddefnyddio fel caer bellach. Roedd ty wedi cael ei godi o’r garreg oddi mewn i gyffiniau’r castell yn yr 17fed ganrif. Am y rhan fwyaf o gyfnod Fictoria roedd y Parch. W.L.Bevan, offeiriad Eglwys y Santes Fair ac yn ddyn adnabyddus yn y dref yn byw yn y ty yma.  
  3.-Mae ffin Ogleddol a Dwyreiniol Y Gelli yn gorffen gyda llinell y waliau canol oesol fel y mae yn dal i wneud hyd heddiw, yn 2002.  
 

To Er mwyn gwybod pa fath o bobl oedd yn byw ac yn gweithio yn Y Gelli ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria, ewch i’r tudalennau ar Ennill Bywoliaeth.
.

 
  Cymharwch â'r Gelli yn 1887..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli