Y Gelli a Dyffryn Gwy
Graffiau poblogaeth
  Ffigurau cyfrifiad plwyf Y Gelli  
 

 
  Yr union ffigurau cyfrifiad a gofnodwyd oedd:-  
  Yn y flwyddyn 1841 - 2107 o bobl
Yn y flwyddyn 1851 - 1952
In tYn y flwyd 1861 - 1998
Yn y flwyddyn 1871 - 2011
Yn y flwyddyn 1881 - 2154
Yn y flwyddyn 1891 - 2027
Yn y flwyddyn 1901 - 1863
 
 

Mae rhif y cyfrifiad yn 1841 yn cynnwys 39 o bobl oedd yn byw yn y tloty. Yn 1851 roedd y rhif yn cynnwys 92 o bobl oedd yn byw yno. Am fod Y Gelli’n dref farchnad i ardal eithaf eang, – ardal oedd yn cynnwys pentrefi o dros y ffin yn Sir Henffordd, roedd y cyfrifiad yn dangos fod y bobl yn gweithio mewn siopau a busnesau, a bod llawer ohonynt yn grefftwyr. (Gwelwch y tudalennau ar Ennill Bywoliaeth) Sôn am blwyf Y Gelli mae’r rhifau uchod, ac mae’n cynnwys y ffermydd a’r tiroedd uchel o gwmpas yn ogystal â’r dref ei hunan.

Cymharwch y graff yma gyda graffiau cymunedau eraill yr ardal.
A yw’r newidiadau mewn poblogaeth yn wahanol?
Os oes yna wahaniaethau, beth yw’r rhain?
Beth oedd yn digwydd yn yr ardal i achosi i’r boblogaeth leihau yn ystod oes Fictoria?

 
 

Yn ôl i ddewislen poblogaeth Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli