Y Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd ysgol
  Gwneud ffrogiau a phinafforau  
 

Child wearing pinaforeRoedd gwnïo a gwau yn bynciau pwysig iawn i’r merched ysgol yn amser Fictoria. Nid oedd llawer o swyddi ar gyfer merched ifanc ar ôl iddynt adael yr ysgol, a byddai’r mwyafrif ohonynt yn mynd yn forynion yn nhai teuluoedd cyfoethocaf yr ardal.
Fel arfer byddai gan ysgol Athrawes Wnïo rhan amser, a hi fyddai’n dysgu’r sgiliau y byddai eu hangen ar y merched ar gyfer y gwaith hwnnw.
Dyma ddau ddyfyniad o Ddyddlyfr Ysgol Genedlaethol Llyswen yn 1870...

20 Mai 1870 - "First class girls commenced making a child's frock for the examination".

Ydych chi’n hoffi
fy mhinaffor newydd?
School diary entry
School diary entry
 

15 Gorffenaf 1870 - "Made 4 pinafores, 1 child's frock, Part of Victorian samplerand 2 night-dresses".

Byddai gwneud sampler yn rhan bwysig iawn o’r gwersi gwnïo mewn ysgolion Fictoraidd.
Roedd yn golygu defnyddio amrywiaeth o bwythau a llawer o liwiau gwahanol i greu cynllun lliwgar ar ddarn o frethyn wedi’i wehyddu. Fel arfer byddai sampler yn cynnwys llythrennau’r wyddor, anifeiliaid a siapiau blodau, ac yn aml byddai’r merched yn gwnïo’u henwau i mewn i’r patrwm. Mae enghraifft o ran o sampler plentyn yn y llun.
.

 
 

Ewch i ddewislen ysgolion Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli