Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd
ysgol
Marwolaeth dau o blant bach | ||
Wrth
ddarllen Dyddlyfrau swyddogol neu ddyddiaduron ysgolion Fictoraidd fe
sylweddolwn pa mor galed y gallai bywyd fod yn y dyddiau hynny. Anaml
iawn, diolch byth, y clywn ni am blentyn yn marw
heddiw, ond roedd yn digwydd yn gyson yn hanes llawer o’r ysgolion cynnar.
|
"The
average attendance for the week 30.7. There were only 35 children present
out of the 61 that have their names on the registers. Two of the 1st Class
boys have died of the measles since the re-opening of the school".
|
Mae’r
cofnod uchod i’w weld yn Nyddlyfr Ysgol
Brydeinig Y Gelli, Medi 1885. Nid yw
enwau’r ddau fachgen bach a fu farw o’r frech goch wedi’u nodi yn y llyfr
hyd yn oed. Mae hyn yn dangos peth mor gyffredin oedd trasiedi fel hyn yr
adeg honno. . |
||