Y Gelli a Dyffryn Gwy
Bywyd ysgol
  Dim ’sgidiau, felly dim ysgol!  
 

Roedd yn ymdrech fawr i lawer o deuluoedd tlawd yn oes Fictoria i gael digon o arian i gadw’n fyw. Doedd dim budd-daliadau i’w cael yr adeg honno, ac ar ôl i bethau fynd i’r pen y dewis oedd mynd i’r tloty neu dderbyn symiau bach o arian gan y plwyf, (mynd ‘ar y plwy’).
Roedd talu’r ychydig geiniogau er mwyn i’r plant gael mynd i’r ysgol leol yn ormod i rai rhieni, ac ar ben hynny, roedd yn rhaid dod o hyd i ddillad addas iddynt eu gwisgo i fynd i’r ysgol…

 
cofnod o ddyddlyfr ysgol
School diary entry
 

Roedd hyn wedi’i ysgrifennu yn Nyddlyfr Ysgol Llandeilo Graban yn Ionawr 1898 -
"7th - Attendance considerably improved this week, but the three boys Thomas, William, and Price Nicholls have been absent for 6 weeks, the excuse being "They have no boots fit to come to school in".

Roedd esgidiau yn bwysig dros ben i blant y wlad, oherwydd roeddynt yn gorfod cerdded am filltiroedd dros lwybrau garw i gyrraedd yr ysgol. Nodwyd hyn yn nyddlyfr yr ysgol ym mis Ionawr, pan oedd y tywydd yn medru bod yn ddrwg iawn, ac esgidiau oedd yn dal dwr yn bethau angenrheidiol.
Mae’n bur debyg mai hwn oedd un o’r esgusodion mwyaf gwir am beidio mynd i’r ysgol – ac roedd yna ddigon o esgusodion yng nghofnodion ysgolion oes Fictoria!

Ragged child
 

Ewch i ddewislen ysgolion Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli