Crughywel
Bywyd ysgol
  Dros y mynydd i’r ysgol  
 

Doedd dim cerbydau i gludo plant i’r ysgol yn Oes Fictoria ! Byddai rhai plant ffodus yn cael reid mewn trol a cheffyl, ond byddai’n rhaid i’r rhan fwyaf gerdded - ym mhob tywydd ! Byddai’n rhaid i lawer gerdded hyd at bum milltir bob ffordd, yn aml ar hyd llwybrau garw iawn ac ar draws y caeau.
Byddai’r tywydd yn aml yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r nifer oedd yn dod i’r ysgol.

 
14 Ionawr
1880
School diary entry
  Dyma gofnod o Ddyddlyfr Ysgol Wladol Llanbedr ym mis Ionawr 1880 -
"Wednesday - Very cold, the snow lying on the ground to a depth of eight inches. Attendance diminished, 31 scholars present against 50 yesterday".
 
7 Tachwedd
1869
School diary entry
Dyma un hen stôf ysgol Oes Fictoria sydd mewn arddangosfa yn
Amgueddfa Brycheiniog

Dyma fwy o broblemau oherwydd y tywydd o ddyddiadur yr un ysgol yn Llanbedr, fis Tachwedd 1888 y tro hwn -
"The weather this week has been so rough and wet, which makes it impossible for some of the little ones to attend. Average [attendance] 29.9".

Byddai prinder gwres yn ystafelloedd dosbarth yr ysgolion cynnar. Lle tân bychan neu hen stôf oedd yn ei gynhyrchu, fel hon o Amgueddfa Brycheiniog yn Aberhonddu.
Byddai plant yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb hyd y croen ac yn methu cynhesu digon i arbed dal annwyd - a bydden nhw’n gwlychu eto wrth gerdded adre !
Mae mwy am broblemau ysgolion Oes Fictoria oherwydd y tywydd oer ar y tudalen nesa ...

Fy nhro i ydy hi i eistedd wrth y tôn ...

 

Photo of old stove
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel