Crughywel
Bywyd ysgol
  Mae’n rhewi-gadewch i ni gyd fynd adre !  
 

Byddai bywyd yn galed iawn i blant yn ystod Oes Fictoria. Roedd llawer yn gorfod cerdded milltiroedd i’r ysgol ym mhob tywydd, ac yn aml byddai’r ysgol yn rhewllyd wedi iddynt gyrraedd yno !
Dyma athro Ysgol Brydeinig Crughywel yn cwyno bod lle tân yr ystafell ddosbarth mor fach yn 1891...

 
18 Chwefron
1891
School diary entry
School diary entry
 

Dyma gofnod o’r Dyddlyfr ym mis Chwefror -
"The weather is very severe again today. Marked [register] at 9.15 am. The firegrates are too small to allow all children to sit around Children by the firethe fires. Consequently it is almost impossible for the children to keep themselves warm. Marked Registers again at 11.20 am. Dismissed for the Day at 1.30 pm".

Ym mis Rhagfyr 1898, dyma a ysgrifennodd athro Ysgol Wladol Llanbedr ..."Only 14 came this morning, and it was thought advisable not to keep school, but let them go home and keep themselves warm".
Mae llawer o enghreifftiau lle nad oes glo na choed gan athrawon i’w rhoi ar y stôf neu’r tân, felly rhaid i’r plant wisgo cymaint o ddillad tu mewn i’r ysgol ag y gwnânt y tu allan iddi !

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel