Crughywel
Bywyd ysgol
Diwrnod anarferol - mae pawb yn yr ysgol ! | ||
Roedd Prifathro Ysgol Brydeinig Crughywel yn synnu bod holl blant ei ddosbarth ieuengaf yn cyrraedd i gael gwersi ! Ysgrifennodd yn y Dyddlyfr ym mis Medi 1874 ei fod yn credu bod "rhywbeth anarferol" wedi digwydd … |
16
Medi
1874 |
Dyma’r cofnod
(prin iawn !) sydd i’w weld uchod: "Something unusual in the attendance of the First Class today. All are present". Y sefyllfa fwyaf cyffredin yw’r un isod. Dyma gofnod o Ddyddlyfr Ysgol Wladol Llanbedr yn 1890 Dyma’r cofnod: |
12
Medi
1890 |
"The attendance has improved but is still very low, the fine weather keeps the parents and children still picking berries on the hills. The Attendance Officer visited and has sent warning notices to all who are absent. Average [attendance] 18.4 ". |
Roedd y tymor casglu
llysiau [duon bach] yn rheswm rheolaidd am
absenoldeb plant o’r ysgol ar ddiwedd mis Awst ac ar ddechrau
mis Medi. Byddai teuluoedd cyfan yn mynd allan i grynhoi llysiau
duon bach ac yn eu gwerthu yn y marchnadoedd lleol.
|
||