Crughywel
Bywyd ysgol
  Gwobrau am ddod i’r ysgol !  
 

Ceisiodd prifathro Ysgol Wladol Llanbedr ddenu plant i’r ysgol bob dydd i gael gwersi drwy eu llwgrwobrwyo !
Yng nghanol mis Tachwedd, 1890, ceisiodd gynnig gwobrau i unrhyw blentyn a ddoi i’r ysgol bob bore a phob prynhawn tan y Nadolig !

 
14 Tachwedd
1890
School diary entry
 

Dyma gofnod o Ddyddlyfr yr ysgol ar 14eg Tachwedd:
"I promised to give prizes to each child who attended every time the Sch: [school] is open until Xmas".

 
12 Rhagfyr
1890
School diary entry
 

Tua mis yn ddiweddarach, ar y 12fed Rhagfyr, dyma a ysgrifennodd yr athro:
"...I find only four children qualified thus far to receive the promised prizes although the attendance has improved a little. Average [attendance] 27.9 "

Nid yw Dyddlyfr Ysgol Llanbedr yn dweud a enillodd un o’r pedwar plentyn eu gwobrau cyn Nadolig 1890 !

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel