Crughywel
Bywyd ysgol
  Cael eu lladd gan gwymp coeden  
 

Roedd plant ifanc yn fwy tebygol o farw yn Oes Fictoria nac yn y blynyddoedd wedi hynny. Y perygl mwyaf oedd afiechydon a allai ledaenu’n gyflym iawn ac a fyddai’n peri llawer o farwolaethau. Ond roedd llawer o gofnodion damweiniau yn Nyddlyfrau’r ysgolion cynnar, fel y drasiedi hon yn 1883...

 
23 Mehefin
1883
School diary entry
 

Dyma gofnod o Ysgol Brydeinig Crughywel, yn ddyddiedig 23ain Mehefin, 1883 -
"Attendance this week much lower and more irregular than for the last weeks. On Tuesday evening the trunk of a tree on the roadside, from some cause or other, fell on Margt. [Margaret] A Davies - a 2nd Standard [class] girl, and killed her on the spot. The funeral is to take place Friday. I took the children there. Revd. [Reverend] J.Parry also attended with the school children".

Damwain a allai ddigwydd unrhyw bryd oedd hon, ond y rheswm am fwyafrif y damweiniau angeuol yn Oes Fictoria oedd diffyg mesurau diogelwch sy’n rhaid eu cael yn ôl y gyfraith heddiw.

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel