Crughywel
Bywyd ysgol
  Marw o’r dwymyn goch yn 10 oed  
 

Mae llawer o gofnodion Dyddlyfrau swyddogol ysgolion Oes Fictoria yn profi bod afiechydon heintus yn gyffredSick child in bedin ac yn aml yn beryglus iawn.
Diptheria a’r dwymyn goch oedd y ddau afiechyd gwaethaf, a byddai’r afiechydon hyn yn gorfodi ysgolion i gau’n gyfangwbl nes byddai’r perygl wedi mynd heibio. Mae’n drist gweld cofnodion fel hyn ym mhob Dyddlyfr ysgol bron o’r cyfnod hwn.
Dyma gofnodion dridiau yn unig oddi wrth ei gilydd yn Nyddlyfr Ysgol Wladol Llanbedr yn 1883:

 
16 Chwefror
1883
School diary entry
  "I opened school on Tuesday but the attendance has been very small owing to the weather. One child, namely Mary Ann Jones, taken seriously ill on Tuesday after leaving school with 'Scarlet Fever'. Average [attendance] for week 28.7".  
19 Chwefror
1883
School diary entry
 

"The child Mary Ann Jones, Age 10 years in the IV Standard [fourth class] died on Saturday night."
Aeth y ferch fach hon druan yn sâl ar ddydd Mawrth ac erbyn dydd Sadwrn roedd hi wedi marw.
Ar y tudalen nesaf, mae enghreifftiau eraill o effaith afiechyd a heintiau ar yr ysgolion cynnar...

Mwy am beryglon yr heintiau …

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel