Crughywel
Bywyd ysgol
  Y dwymyn yn peri ofn - a marwolaethau  
 

Nid yw’n syndod bod rhieni yn anhapus wrth adael eu plant i fynd i’r ysgol os oedd yna unrhyw afiechydon yn yr ardal a allai ledaenu’n gyflym drwy’r ysgol gyfan.
Dyma gofnod o Ddyddlyfr Ysgol Wladol Llanbedr ym mis Ionawr 1888 :

 
18 Ionawr
1888
School diary entry "The fever has caused such alarm that the parents are frightened to send their children to school. Charley Davies died on Monday".
  Mae’r cofnod isod yn dod o’r un ysgol yn 1898, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, sy’n dangos bod rheswm da am ofni...  
21 Mawrth
1898
School diary entry
 

Dyma’r cofnod o’r Dyddlyfr:
"School closed for six weeks because of Diptheria. Three of the scholars died owing to it".
Afiechyd peryglus iawn oedd Diptheria lle byddai’r llwnc yn chwyddo ac yn rhwystro’r anadl rhag cyrraedd yr ysgyfaint. Un ymhlith nifer o afiechydon heintus cyffredin Oes Fictoria oedd hwn ond nid yw’n bodoli erbyn hyn. Roedd diffyg arian llawer o deuluoedd yr adeg honno yn golygu bod telerau byw pobl yn ddrwg iawn a bod eu deiet yn wael hefyd.
Mae’n drist hefyd gweld cofnodion marwolaethau am resymau eraill yn y rhan fwyaf o Ddyddlyfrau’r ysgolion cynnar...

Marwolaeth merch ysgol ifanc yn 1883...

 

Sick child
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel