Crughywel
Bywyd ysgol
Gwersi gwnïo i’r merched | |||
Yn Oes Fictoria, roedd gwersi gwnïo
yn rhan bwysig iawn o addysg y merched. Cyfyng iawn oedd y dewis o swyddi
i ferched ar y pryd, a byddai’r mwyafrif yn mynd yn forynion
i’r "Ty Mawr"
lleol neu’n mynd i weithio i’r ffermwyr neu i’r siopwyr lleol. |
|
25
Ebrill
1876 |
"...Two girls, Rachel Prosser and Bessie Morgan have completed their samplers and six others, viz - Alice, Jane, and Evelyn Morgan, Rachel Davies, Agnes Bowcroft and Selina Jones have just begun to work a sampler each". |
Yr arfer oedd bod y merched yn gwnïo enwau a’r dyddiad yn rhan o’r dyluniad, ac mae’r sampleri Fictoraidd a oroesoedd yn eithaf gwerthfawr erbyn hyn. Bydd y lliwiau llachar gwreiddiol wedi pylu yn aml, ond profodd y plant eu bod yn fedrus iawn gyda’u brodwaith. Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel
|
||