Crughywel
Bywyd ysgol
  Powdwr gwn/powdwr du ar y tân yn yr ysgol !  
 

Mae llawer o gofnodion dyddiaduron swyddogol neu Ddyddlyfrau ysgolion Oes Fictoria yn sôn am gamymddygiad y plant - a’r gansen oedd yn ei ddilyn!
(Diolch i’r drefn !) Dyma un o’r enghreifftiau mwyaf anarferol ...

 
17 Tachwedd
1869
School diary entry
 

Cofnod o Ddyddlyfr Ysgol Brydeinig Crughywel yw hwn ym mis Tachwedd 1869 -
"Found out that the bigger boys were in the habit of carrying gunpowder with them to school. Punished one boy for throwing a quantity of this powder into the school fire..."
Gobeithio mai dim ond ychydig bach o bowdwr gwn/bowdwr du oedd ganddo, neu dim ond ychydig bach o’r bachgen ac o’r ysgol fyddai ar ôl !

Byddai powdwr gwn/powdwr du yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin yn Oes Fictoria ar gyfer creu tanchwa mewn cwarrau ac yn ystod adeiladu’r camlasau a’r rheilffyrdd. Mae’n debyg y byddai’n hawdd i’r bechgyn gael peth ohono, am nad oedd fawr o reolau ynghylch diogelwch bryd hynny!

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel