Crughywel
Ennill bywoliaeth
Mwy am...
Masnachwyr yr ardal yn 1835  
 

Dyma ragor o fasnachwyr a oedd yn bwysig i’r ardal yn rhan gyntaf teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mae rhai, fel y gwerthwyr nwyddau haearn, y peintwyr, a’r plymwyr yn gyfarwydd inni heddiw. Ond dydy eraill, fel y bragwr, ddim mor gyfarwydd inni. Gwaith bragwr oedd trin barlys â brag yn ei fracty. Byddai’r cynnyrch gorffenedig yn cael ei ddefnyddio wedyn i fragu cwrw.

 

 

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau sy’n gyntaf

 

Gwaith y cyfrwywr oedd gwneud cyfrwyau a harneisiau i’r ceffylau a oedd mor bwysig yn Oes Fictoria cyn amser moduron, a gwaith y saer troliau oedd gwneud olwynion i’r holl droliau a’r coetsys.

Wrth ystyried yr holl dai crand a’r parciau o gwmpas yr ardal, nid yw’n syndod bod yma rywun oedd yn prynu a gwerthu helgig. Yn ystod y tymor, byddai pobl yn hela’n rheolaidd yn Nyffryn Wysg.

Prin iawn, mewn hen ffotograffau Fictoraidd, y gwelwch rywun yn mynd allan heb wisgo rhywbeth am eu pen. Dyma’r rheswm bod gwneuthurwyr a gwerthwyr hetiau yn y rhestr hon.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel