Crughywel
Ennill bywoliaeth
| Proffesiynau’r ardal yn 1835 | ||
|
|
Peidiwch
ag anghofio! |
Roedd
gan Wilkins a’i Gwmni, Aberhonddu, gangen o’i fanc yng Nghrughywel. Dyma’r
unig fanc ar y rhestr ar y pryd, felly,
roedd yn amlwg ei fod yn bwysig yn y gymuned leol. |
PWYSIG ! Sylwch mai dynion yw’r bobl hyn i gyd! Nid oedd mwyafrif y proffesiynau yn agored i fenywod yng nghyfnod Fictoria. | |
Yn
nyddiau cynnar Oes Fictoria roedd swyddogaeth y llawfeddyg
yn newid. Hyd yn hyn, llawfeddyg oedd rhywun heb fawr o hyfforddiant ond
a oedd yn gallu tynnu dannedd ac ailosod aelodau’r corff yn eu lle wedi
iddyn nhw dorri. Yn nes ymlaen yn Oes Fictoria, byddai meddygon yn derbyn
llawer mwy o hyfforddiant a byddai’r llawfeddyg yn feddyg wedi ei hyfforddi’n
arbennig ar gyfer gwneud llawdriniaethau. (Byddwn yn cwrdd â Mr Franco yn
yr adran ar y wyrcws.) |
||