Crughywel
Ennill bywoliaeth
Boneddigion yr ardal yn 1835 | ||
Dyma restr o’r holl bobl yn ardal Crughywel a ddymunai gael eu rhestru fel ‘Boneddigion’ yn 1835. Boneddigion oedd pobl nad oedd yn gweithio i ennill bywoliaeth, ond a enillai arian drwy osod eu heiddo ar rent i denantiaid. Roedden nhw’n teimlo’n sicr eu bod yn well na’r bobl a oedd ‘yn masnachu’ neu yn gweithio iddyn nhw. Roedd y tudalen hon mor fach yn y gwreiddiol nes oedd hi’n anodd darllen yr enwau. Bydd y sillafu braidd yn anghyfarwydd hefyd. Fedrwch chi adnabod
rhai o’r enwau ar y tai neu’r ffermydd? Y perchnogion eiddo hyn oedd y bobl bwysicaf yn yr ardal ym mlynyddoedd cynnar teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Perchnogion eiddo yn unig a allai fod yn ynadon neu yn aelodau o reithgor, felly nhw oedd yn gofalu am faterion swyddogol yr ardal. |
Peidiwch
ag anghofio! |