Crughywel
Bywyd ysgol
  Dysgu am y llewpart a’r cimwch !  
 

Byddai llawer o ysgolion Oes Fictoria yn cael rhestr benodol bob blwyddyn o’r "Pynciau ar gyfer Gwersi". Byddai’r rhain yn cynnwys anifeiliaid a phynciau eraill y gallai’r athro siarad am Photo of wolfdanyn nhw yn y gwersi, gyda rhestrau gwahanol ar gyfer plant ifanc a hyn.
Mae nifer o Ddyddlyfrau’r ysgolion yn cynnwys Pynciau ar gyfer y Gwersi y dylid eu dysgu.
Byddai gan yr athrawon set o gerdiau a lluniau’r "pwnc" arnynt a ffeithiau a ffigurau am y pwnc hwnnw. Teitl y cofnod isod yw "List of Object Lessons for Lower Standards" o Ddyddlyfr Ysgol Wladol Nantddu ym mis Mehefin 1897.

Rwy’n hoffi plant. Gallan
nhw fod yn flasus iawn !
3 Mehefin
1897
School diary entry "Animals - 1. The Leopard, 2. The Wolf, 3. The Zebra, 4. The Seal, 5. The Giraffe, 6. The Beaver, 7. The Camel, 8. The Reindeer, 9. The Llama, 10. The Bear
Birds - 1. The Swan, 2. The Pheasant, 3. The Pigeon, 4. The Cuckoo, 5. The Goose

 
 

Fish - 1. The Salmon, 2. The Cod, 3. The Herring, 4. The Oyster, 5. The Lobster.
Natural Phenomena
- 1. Rain, 2. Hail, 3. Dew, 4. Ice, 5. Snow.
Geographical terms
- 1. Rivers, 2. Mountains, 3. Oceans, 4. A Town, 5. A Map".
Mae’r term "ffenomenâu naturiol" yn deillio o "phenomenon". Ffenomenon naturiol yw rhywbeth gweladwy sy’n digwydd yn aml - glaw er enghraifft.
Byddai rhai o’r "pynciau" yn gyfarwydd i’r plant, ond byddai eraill yn anarferol iawn mae’n siwr. Doedd dim rhaglenni teledu yn sôn am wledydd eraill nac am fywyd gwyllt yn Oes Fictoria !

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel