Crughywel
Bywyd ysgol
  Cael arian ar gyfer ysgolion yn Oes Fictoria  
 

Yn y dyddiau cynnar, roedd llawer o’r ysgolion yn ei chael yn anodd iawn cael arian i dalu am adeiladau ac offer i’r ysgolion. Yn aml, byddai’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar bobl fwyaf cyfoethog yr ardal am help.
Mae dyddlyfr Ysgol Brydeinig Crickhowell yn 1867 yn cyfeirio at ddyn lleol a roddodd dir i’r ysgol -
"Mr Jones of Victoria Place, the donor of the land for the school premises, visited the school".
Yn y flwyddyn ganlynol, 1868, roedd yr un dyddlyfr yn cofnodi rhodd o fwrdd du newydd i’r ysgol...

 
21 Ionawr
1868
School diary entry
 

Dyma beth sydd yn y Dyddlyfr :
"Received a new black board about 4ft by 4ft, the gift of Mr James Williams of Llangattock".
Mae’n rhyfedd meddwl heddiw bod ysgolion ar un amser yn dibynnu ar roddion pobl leol er mwyn cael eitem mor sylfaenol â bwrdd du! Ac roedd yn rhaid i’r plant hyd yn oed dalu ychwaneg am inc ! ...

 
18 Tachwedd
1867
School diary entry
 

Dyma gofnod o Ddyddlyfr Ysgol Brydeinig Crughywel a ysgrifennwyd ym mis Tachwedd, 1867 :
"Ordered that pupils should pay 1d [one penny] per month for use of ink".
Mae’r cofnod ar dudalen nesaf yr un Dyddlyfr yn dangos sut yr oedd athro yn yr un ysgol yn 1891 yn gwneud ei orau i helpu gwella ymarweddiad yr ysgol drwy wneud ychydig o DIY...

Athro yn dechrau gwaith gyda brws paent…

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel