Crughywel
Ennill bywoliaeth
  Tafarndai’r ardal yn Oes Fictoria  
 

Yn y dyddiau cyn adeiladu rhwydwaith y rheilffordd fawr Fictoraidd, roedd yn rhaid i bobl deithio o gwmpas mewn coets neu ar gefn ceffyl. Felly, oherwydd bod y siwrneiai yn cymryd llawer mwy o amser, roedd yn rhaid i’r teithwyr gael rhywle i aros dros nos. Roedd nifer enfawr o dafarndai ledled Prydain yn cynnig bwyd a llety i bobl.

 
 

extract from Pigot's guide.Mae Cyfeiriadur De Cymru Pigot yn rhestru tafarndai ardal Crughywel yn ystod blynyddoedd cynnar teyrnasiad Fictoria. Roedd yn rhaid i’r tafarndai a oedd yn cynnig llety i deithwyr y goets fawr (megis y Beaufort Arms) gyflogi llawer o bobl leol i weithio yn y dafarn.


  Roedd angen morynion i lanhau’r ystafelloedd ac i ofalu am y gwesteion. Byddai ‘bechgyn glanhau ‘sgidie’ yn glanhau ‘sgidiau’r teithwyr, a gwastrawd yn edrych ar ôl y ceffylau. Y gogyddes a’i chynorthwywyr fyddai’n brysur yn y gegin yn coginio ar gyfer y gwesteion. Felly, gallwch weld bod tafarndai’r ardal yn ffynhonnell bwysig cyflogaeth i bobl leol yn ystod Oes Fictoria.  
 

Old photograph of Three Salmons Inn.

Tafarn y Tri Eog

 
 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel