Crughywel
Bywyd ysgol
  Y Ffeiriau Cyflogi  
 

Cewch weld wrth edrych ar y tudalennau eraill bod plant yn cael eu cadw adref o’r ysgol i helpu eu rhieni ac i ennill arian i Drawing of farmer at fair gadw’r teulu. Byddai’n rhaid i blant teuluoedd tlawd adael yr ysgol cyn gynted ag y gallent.
Yn yr ardaloedd gwledig, roedd "Ffeiriau Cyflogi" yn cael eu cynnal ym mis Mai, pan fyddai ffermwyr a pherchnogion tir yn cyflogi gweision ffermydd am flwyddyn. Byddai llawer o’r plant hynaf o’r ysgolion lleol yn mynd i’r ffeiriau hyn, ac os byddent yn cael eu cyflogi, byddai’n rhaid iddynt aros yn y gwaith tan ddiwedd y flwyddyn hyd yn oed os byddai’r gwaith a’r telerau byw yn wael iawn - ac fe fydden nhw’n wael yn aml iawn!

 
29 Mai
1896
School diary entry
 

Dyma’r cofnod o Ddyddlyfr Ysgol Wladol Llanbedr ym mis Mai, 1896 -
"End of School year. Several of the children have left owing to parents moving and others have been hired for service at the Fairs, viz Elizabeth Williams, Oswald Brute ..."

Roedd hi’n gyffredin i rieni ddwyn eu plant allan o’r ysgol wrth iddynt symud i ardal arall i chwilio am waith. Digwyddai hyn yn enwedig mewn ardaloedd lle roedd glofeydd a ffatrïoedd yn llewyrchus weithiau, ond yn llai llewyrchus ambell flwyddyn.

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel