Crughywel
Bywyd ysgol
  Pawb adre wrth y gwair…  
 

Prif broblem ysgolion Fictoraidd oedd sicrhau bod plant yn mynychu’r ysgol i gael gwersi. Mae’r holl Ddyddlyfrau yn sôn am y rhesymau di-rif (neu’r esgusodion !) pam roedd y plant yn absennol. Roedd afiechyd yn rheswm cyffredin am beidio dod i’r ysgol ac yn un dilys ran amlaf.
Mewn ardaloedd gwledig, roedd angen y plant ar amrywiol adegau o’r flwyddyn i helpu gyda cynhaeaf gwair, cneifio defaid, tynnu tatws a gwaith tymhorol arall ar ffermydd. Roedd angen nifer o bobl i wneud y tasgau hyn, ac ni fyddai llawer o rieni yn dod i ben â’r gwaith heb help eu plant.

 
24 Mehefin
1878
School diary entry
 

Dyma gofnod cyffredin o Ddyddlyfr Ysgol Llanbedr ym mis Mehefin 1878 :Haymaking drawing
"School work again interrupted by non-attendance of all the elder children, who, notwithstanding the warnings of the Attendance Officer, are employed making hay".
Roedd gan nifer o ysgolion ‘Swyddogion Mynychu Ysgolion’ a’u gwaith oedd sicrhau bod plant yn mynd i’r ysgol yn rheolaidd.
Ychydig ohonynt oedd yn gwneud eu gwaith yn dda. Mae rheswm arall dros beidio mynd i’r ysgol ar y tudalen nesaf

Cael tâl am beidio mynd i’r ysgol…

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel