Crughywel
Bywyd ysgol
  Swllt y dydd - am chwarae triwant !  
 

Rheswm arall oedd yn cadw plant y wlad rhag mynd i’r ysgol yn rheolaidd yn Oes Fictoria oedd y tymor saethu.
Byddai bechgyn yr ysgolion lleol yn cael eu talu i fod yn ‘beaters’ i bobl gyfoethog yr ardal a fyddai’n mynd i saethu ffesant. Byddai’r beaters yn gyrru’r adar i hedfan i’r awyr yn darged i’r gynnau. [Geirfa] Llyffethair - rhwystr, rhywbeth sydd o’r ffordd.

 
20 Ionawr
1882
School diary entry
 

Dyma enghraifft o Ddyddlyfr Ysgol Brydeinig Crughywel fis Ionawr 1882 -
"Many children away ; some of the boys go out 'beating' game when shooting goes on in the neighbourhood. For their services they receive a shilling a day and their food. I have found this a great hindrance in the way of securing good attendance".
Victorian shooterNid yw’n syndod bod rhai o’r bechgyn yn ystyried cael cynnig swllt y dydd a bwyd yn rhad ac am ddim yn well dewis na mynd i’r ysgol !
Byddai’r hela ran amlaf yn digwydd ar y stadau preifat a oedd yn eiddo i’r boneddigion lleol, felly ni allai’r athrawon gwyno am y trefniadau hyn. Roedd yn rhaid i’r athrawon fodloni ar ysgrifennu yn Nyddlyfr yr Ysgol yn lle cwyno !
Ond ambell ddiwrnod byddai’r plant i gyd yn cyrraedd yr ysgol, fel y gwelwch ar y tudalen nesa

Dyna beth rhyfedd - mae pawb yma ! …

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel