Crughywel
Mapiau Fictoriaidd
  Llangenau yn 1904  
 

Isod fe welwch ddarn manwl o fap a gafodd ei lunio yn 1904, wedi i deyrnasiad y Frenhines Fictoria ddod i ben. Mae’n fwy manwl na’r darn o fap 1872 a gall ddangos i ni sut y mae’r gymuned wedi newid.

 
  map of Llangenny in 1904
  Doedd y felin bapur sydd i’r De o’r eglwys yn ymyl yr afon ddim yn gweithio erbyn hyn. Roedd melinau yn cael eu gyrru gan stêm wedi disodli’r melinau dw>r ac roedd yn rhaid i’r gweithwyr symud oddi yno er mwyn medru cael gwaith. .  
 

Yr ochr draw’r afon o’r eglwys, mae darn llwyd cysgodol ar y map sy’n dangos parc Ty Pendarren. Roedd angen gweision a morynion mewn tai mawrion fel hyn i weithio yn y ty< ac yn y gerddi ac aeth llawer o bobl leol i wasanaethu yno.

Mae’r ffotograff ar y chwith yn dangos y ty a’r gerddi tua’r adeg honno.

 
 

Y drws nesaf i’r eglwys ar y map fe welwch bod ysgol gan y pentref erbyn hyn. Dyma newid mawr pwysig yn y gymuned, oherwydd roedd yr addysg a dderbyniai’r plant yn yr ysgol yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud amrywiaeth o waith yn nes ymlaen yn eu gyrfa.

Cymharwch fap o Langenau yn 1872

 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel