Crughywel
Mapiau Fictoriaidd
Llangatwg yn 1904 | ||
Mae’r ddelwedd isod yn ymddangos ar fap o’r ardal a gyhoeddwyd yn 1904, yn union ar ôl teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Mesurai’r map 6" y filltir, felly mae’n fwy manwl na map 1872. |
||
Eto, fe welwn y mannau llwyd cysgodol sef tir y parc. Roedd y tai bonedd yn dal yn bwysig i’r gymuned leol a’u perchnogion oedd dynion pwysig y sir. | ||
Gwelwn ysgol y pentref nesaf at eglwys y plwyf (gyda’r arwydd Sch. yn ei hymyl). Roedd dysgu darllen a gwneud symiau sylfaenol yn rhoi cyfle i’r plant gael gwell gwaith wedi gadael yr ysgol. Er hynny, byddai llawer iawn o’r plant yn tyfu i fyny ac yn gweithio ar y tir neu yn mynd i wasanaethu. (Edrychwch at y tudalennau am Fywyd yr Ysgol leol er mwyn dysgu mwy am hyn). | ||
Er y gallwn weld y gamlas o hyd ar y map, roedd ei phwysigrwydd wedi dod i ben fel ffordd o gludo glo a deunyddiau eraill. Datblygwyd rheilffyrdd ar draws y wlad a dyna ddiwedd ar oes y camlesi. |