Crughywel
Mapiau Fictoriaidd
  Llangatwg yn 1872  
 

Mae’r map isod yn dangos pentref Llangatwg a’r ardal gyfagos tua chanol teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Roedd y pentref yn y man lle gellid croesi’r afon Wysg, ac roedd yn ddigon agos at dref Crughywel fel y gallai’r bobl fynd i weithio yno ac i ymweld â’r farchnad.

 
 
  Roedd y gamlas yn bwysig i Langatwg yn gynharach yn Oes Fictoria. Nid oedd y camlesi yn gallu dringo heb fynd drwy nifer o lifddorau, ac roedd y periannwyr â’u hadeiladodd yn dilyn cyfuchlin/amlinell y tirlun fel bo’r camlesi mor wastad â phosibl. Golygai hyn bod y gamlas yn dod drwy Langatwg yn hytrach nag yn mynd i Grughywel. Gallwch weld yr iard lo yn ymyl y gamlas lle roedd y badau glo yn cael eu dadlwytho ac yna byddai’r glo yn cael ei gludo mewn troliau i gartrefi.
Gerllaw roedd yr odynnau calch lle roedd y garreg galch yn cael ei chynhesu i wneud calch. Roedd y cerrig calch yn cael eu cario i lawr o’r mynyddoedd mewn tram.
 
  Mae’r map hefyd yn dangos mewn cysgod fannau llwyd o gwmpas y tai bonedd, a rhain oedd tiroedd y parc a amgylchynai’r tai bonedd. Oherwydd bod mynyddoedd dramatig o bobtu i’r dyffryn, roedd yr ardal yn denu llawer o feistri tir a ddaeth i sefydu stadau yn lleol. Llawer o ffermwyr yr ardal oedd tenantiaid y stadau hyn, ac roedd nifer o bobl lleol yn weision ffermydd ac yn weision a morynion y stadau.  
  Cymharwch fap o Langatwg yn 1904…  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel