Crughywel
Bywyd ysgol
Bwrw athro allan o’r drol gwn ! | ||
Roedd rhai o’r digwyddiadau y mae
sôn amdanynt yn Nyddlyfrau’r ysgolion Fictoraidd yn fwy anghyffredin na’i
gilydd. Mae’r cofnod ar y tudalen hon yn cyfeirio at Ysgol
Wladol Llanbedr fis Tachwedd 1877. |
22
Tachwedd
1877 |
"Was absent from School from Monday until Thursday Afternoon on account of illness caused by being thrown out of a dog-cart. School was kept by the late Mistress". |
Mae’r geiriau "the late Mistress" yn cyfeirio at yr athrawes a arferai weithio yn yr ysgol - nid ei bod hi’n cyrraedd yn hwyr ! Roedd y drol gwn yn cael ei thynnu gan geffyl neu ferlen, nid gan gwn ! Trol â dwy olwyn fawr iddi, a‘i seddau gefngefn â’i gilydd oedd hon. I gychwyn, roedd bocs yn rhan o’r drol, er mwyn medru cario cwn hefyd. Tynnwyd rhai troliau bach gan gwn, ond dydy cwn fel arfer ddim yn hoff iawn o’r syniad ! |
Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel
|
||