Crughywel
Bywyd ysgol
  Cosb waeth i Sarah  
 

Credai prifathro Ysgol Brydeinig Crughywel yn 1878 yn amlwg mai defnyddio’r gansen i gosbi plant oedd y ffordd orau o’u cael i ymddwyn yn well.
Pan fydd yn ysgrifennu yn y Dyddlyfr ei fod yn rhoi "one cut" i’r disgyblion, ystyr hynny yw un gansen. (Mae’r cofnodion isod mewn dwy ran am eu bod ar ddwy dudalen wahanol yn y llyfr).

 
26th August
1878
School diary entry "Punished John Lewis, Arthur Morgan, Arthur King, and Sarah Davis, with one cut on the hand each for not doing their home lesson. The last mentioned refused to take the cut, but proceeded to leave the school, stating that I should not touch her, and that if I did she would tell her father. Thereupon I gave her several cuts on the back".
School diary entry

Felly roedd y ferch ifanc nad oedd am gael un gansen gan yr athro ar ei llaw yn hytrach yn derbyn mwy nag un gansen ar ei chefn !
Er bod llawer o hanesion yn hen gofnodion yr ysgol am blant yn camymddwyn ac yn derbyn y gansen gan athrawon, does fawr neb yn cofnodi bod y rhieni yn cwyno am hyn. Roedd yn rhan o’r arfer yn yr ysgol, ac nid oedd yn dod â’r camymddwyn i ben !
Sef rhoi powdwr gwn/powdwr du ar y tân yn yr ysgol …

Camymddwyn, a chosb i’w ddilyn ! …

 

Caning
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel
RDR