Crughywel
Bywyd ysgol
  Taith mewn cwch ar y gamlas  
 

Ymweliad arall y mae sôn amdano yn Nyddlyfr Ysgol Brydeinig Crughywel yw’r un ym mis Medi 1875. Taith mewn cwch ar Gamlas Aberhonddu a’r Fenni oedd hwn.
Erbyn 1875, roedd y gamlas wedi colli’r rhan fwyaf o’i masnach yn cario glo a nwyddau trwm eraill oherwydd y rheilffyrdd, felly mae’n rhaid bod y daith ar y gamlas wedi bod yn un heddychlon iawn - ar wahân i’r plant swnllyd !

 
17 Medi
1875
School diary entry
School diary entry
  Dyma’r cofnod a rennir dros ddwy dudalen yn y Dyddlyfr -
"Holiday. School Treat. The children met at Llangattock Wharf at noon & went down the canal in one of Mr Watkin's boats, as far as Govilon, and returned between four and five o'clock. Tea was partaken of in a field near the yard".
Children on canal boat
 

Tynnwyd yr hen ffotograff yma (sydd braidd yn aneglur !) nifer o flynyddoedd wedyn, tua 1908, ond mae’n rhoi rhyw syniad inni am daith y plant. Mae’n dangos llond cwch o bobl yn mynd heibio Glanfa Llangatwg sydd ar gamlas Aberhonddu a’r Fenni.

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel