Crughywel
Bywyd ysgol
  Gwrandewch ar gloch yr ysgol !  
  Am ein bod ni’n gwybod yr amser yn hawdd oherwydd teledu a radio a bod gennym glociau a watsys, mae’n hawdd anghofio nad oedd y mwyafrif yn Oes Fictoria yn gwybod faint o’r gloch oedd hi. Byddai gan bobl mwy cyfoethog glociau a watsys, ond roedd yn rhaid i’ r lleill ddyfalu’r maser yn ôl golau’r dydd neu yn ôl golau’r haul a’r lleuad.
Doedd hi ddim yn syndod bod plant yn cyrraedd yr ysgol ar amserau gwahanol - rhai yn gynnar, eraill yn hwyr. Yn 1891, trefnodd prifathro Ysgol Brydeinig Crughywel osod cloch newydd yn ymyl adeilad yr ysgol...
Teacher ringing bell
5th May
1891
School diary entry "The Bell was erected today on the side of the School. This, I hope, will be the means of bringing the children to school punctually. Children from the distance usually come to school very late..."
 

"...The Bell will be rung -
In [the] morning at 10 minutes to 9 am
In [the] afternoon at 20 [minutes] past 1 pm".
Doedd hi ddim yn anarferol bod plant yn gorfod cerdded hyd at bum milltir i lawer o’r ysgolion yn Oes Fictoria, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Os bydden nhw’n ddigon agos i allu clywed sain cloch yr ysgol, yna bydden nhw’ n gallu cyrraedd yr ysgol ymhen rhyw 10 munud !

Yn ôl i ddewislen Ysgolion Crughywel

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel