Crughywel
Ennill bywoliaeth
  Damwain ym Mrynmawr yn 1869  
 

Ar hyd llethrau’r mynyddoedd i’r De o Grughywel, roedd dynion yn cloddio am garreg galch, am lo a mwyn haearn.
Bydden nhw’n defnyddio powdwr gwn (powdwr du) i chwythu tunnelli o graig o’r ffordd fel y gallai dynion gyrraedd y deunydd roedd ei angen arnyn nhw. Roedd y powdwr gwn/powdwr du hwn yn ddefnyddiol iawn ond yn beryglus iawn hefyd.

 
  Picture of the scene from an old newspaper
 

Tynnwyd y llun uchod gan artist a ddaeth gyda gohebydd papur newydd lleol i adrodd am y ddamwain a ddigwyddodd ym Mrynmawr.

Mae’n ymddangos i’r ddamwain ddigwydd pan aeth bachgen o’r enw Evan Evans i warws storfa Messrs Watkins ym Mrynmawr. Taniodd y gannwyll a gariai Evan y powdwr gwn (powdwr du). Yn y tanchwa, cafodd Evan druan ei ladd ar unwaith. Chwythodd to’r storfa i ffwrdd a chafodd llawer o’r adeiladau eraill o gwmpas niwed. Cafodd pobl ar y strydoedd eu lladd neu eu niweidio gan gerrig yn cwympo.
 

Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Crughywel

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Crughywel