Llanfair-ym-Muallt
Mapiau Fictoriaidd
  Llanelwedd yn 1888  
 

Cafodd y map isod ei wneud yn 1888. Y raddfa yw 6 modfedd = 1 filltir. Mae mwy o fanylion yn y map yma. Gallwn weld o'r map hwn nad oes llawer o newidiadau wedi eu gwneud i'r ardal ers 1840. Ond mae'r ardal sydd i'r De yn ymyl y bont dros yr Afon Gwy wedi newid lawer iawn.

 
 
  1 Yn y man lle roedd Gro House yn arfer â sefyll, mae map 1888 yn dangos y Llanelwedd Arms Hotel sydd yn cynnig llety i nifer cynyddol o ymwelwyr â'r sba.  
  2 Ar ochr Sir Faesyfed yr afon mae gorsaf newydd Llanfair-ym-Muallt yn sefyll nawr. (Edrychwch yn y rhan Trafnidiaeth i gael gwybod mwy am y rheilffordd.) Mae'r briffordd wedi newid er mwyn gwneud lle i'r rheilffordd.  
  3 Lle bach iawn yw pentref Llanelwedd o'r hyd, ond mae ganddo ysgol newydd. Roedd hyn yn bwysig iawn i blant y werin gyffredin. Roedd yr ysgolion newydd yn cynnig cyfle newydd i'r plant ar ôl iddynt dyfu, ac yn lle cael eu cyfyngu i waith arbennig roedd y plant yn cael digon o ysgol iddynt wneud rhywbeth gwahanol yn eu bywydau.  
 

4 Ty mawr crand yw Neuad Llanelwedd o'r hyd, ac yn sefyll yn ei dir ei hun. Roedd perchennog y Plas yn dal yn bwysig, ond roedd yr olygfa o'r Plas ar fin newid yn sicr.

Cymharwch hwn gyda'r map o Llanelwedd yn 1840..

 
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt