Llanfair-ym-Muallt
Cludiant
  Y Rheilffordd yn Cyrraedd  
 

Roedd yr ardal o amgylch Llanfair-ym-Muallt yn lwcus ddwywaith yn amser Fictoria pan gafodd dwy reilffordd eu hadeiladu ar draws y tir i gysylltu'r cymunedau gweddol bellennig oedd ar ffiniau Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed gyda'r trefi a'r dinasoedd pell.
Roedd hyn yn golygu bod y busnesau lleol yn gallu gwerthu'r cynnyrch mewn marchnadoedd newydd a bod y bobl leol yn gallu dod o hyd i nwyddau newydd oedd yn dod i'r siopau o bell. Am y tro cyntaf daeth teithio o'r ardal yn bosibl i fwy o bobl.

 
  map of local railways
 

Venus Y rheilffordd gyntaf i ddod i'r ardal oedd y Rheilffordd Ganol Cymru - Mid Wales Railway. Agorwyd y rhan oedd yn mynd drwy Llanfair-ym-Muallt ar 23 Awst 1864, pan ddaeth y trên cyntaf o Aberhonddu drwy Aberllynfi a Llanfair-ym-Muallt, i fyny Dyffryn Gwy trwy Rhaeadr, ac yna ymlaen i Lanidloes. Enw'r locomotif sydd yn y llun yw'r Venus, a welir yma yn ystod adeiladu'r rheilffordd yn Llanfair-ym-Muallt yn 1864. Ymhen hir a hwyr byddai ymestyn y lein hon yn golygu eich bod yn gallu teithio i Henffordd neu'r Drenewydd yn hawdd o Llanfair-ym-Muallt ar y trên.

 
  Mwy am reilffyrdd yn yr ardal..  
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt