Llanfair-ym-Muallt
Cludiant
Mwy am...
Y Rheilfordd yn yr ardal  
 

Railway at BuilthYr ochr arall i'r afon yn Llanelwedd roedd safle gorsaf Llanfair-ym-Muallt ar y Rheilffordd Ganol Cymru. Cafodd nifer o adeiladau rheilffordd eu codi yma sef 2 focs signal , sied i'r coetsis, sied nwyddau, corlannau anifeiliaid, ac adeilad yr orsaf ei hunan. .

Roedd 16 o ddynion yn gweithio yn yr orsaf, a rhai eraill yn cynnal a chadw'r lein. Wrth i'r rheilffordd ddod i Lanfair-ym-Muallt roedd hyn golygu y gallai'r dref ddatblygu ymhellach fel tref â sba a denu ymwelwyr, er ni fu erioed mor fawr â Llandrindod. Gallai cynnyrch yr ardal gael ei anfon i'r trefi
a'r dinasoedd.

 
Early train
 
 

Ym mis Tachwedd 1866, cyrhaeddodd estyniad Rheilffordd y Cambrian yr ardal . Yn y pen draw roedd y lein hon yn cyrraedd o Craven Arms hyd Abertawe, ac roedd gorsafoedd yn Cilmeri a Garth. Yn y man lle roedd y lein yn croesi'r Rheilffordd Canol Cymru, gwta ddwy filltir o Lanfair-ym-Muallt, agorwyd gorsaf arall. Roedd adeiladu'r gyffordd yma'n golygu fod gan gymuned fechan yn Sir Faesyfed (Ffordd Llanfair-ym-Muallt) ddwy orsaf.
Byddai'r bobl leol yn defnyddio'r ddwy reilffordd i deithio i'r marchnadoedd , ac mewn oes heb geir roedd hyn yn gam mawr ymlaen.

 
  Cyffordd Ffordd Llanfair-ym-Muallt..  
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt