Llanfair-ym-Muallt
Cludiant
  Cymuned newydd y rheilffordd  
 

Tyfodd cymuned newydd yn y man lle roedd Rheilffordd Canol Cymru a'r Rheilffordd Estyniad Canolbarth Cymru yn croesi'i gilydd. Gallwch weld ar y map 1888 hwn bod dwy orsaf wedi'u codi, un ar bob lein. Roedd hyn yn golygu y gallai teithwyr deithio ar un lein, disgyn yn Ffordd Llanfair-ym-Muallt er mwyn newid i'r lein arall, ac yna deithio ar hyd y lein honno.
Er mwyn cael gwybod am y nodweddion sydd â rhifau ar y map, edrychwch isod.

 
 
  1. Roedd hen dir caeedig y Cwrt Llechryd arfer bod yn gartref ac yn gaer i ryw uchelwr pwysig. Roedd y lle'n 1000 o flynyddoedd oed pan adeiladodd y cwmni'r lein drwy ganol y tir, a dinistrio rhan o'r safle.  
  2. Rheilffordd Canolbarth Cymru (Central Wales Railway) o Craven Arms i Abertawe, enw'r orsaf oedd Gorsaf Ffordd Llanfair-ym-Muallt.  
  3. Rheilffordd Canol Cymru (Mid Wales Railway) o Lanidloes. Mae'r rheilffordd hon yn cysylltu Aberhonddu a'r Gelli. Gorsaf Llechryd oedd enw'r orsaf y pryd hynny.  
  4. Siedau Nwyddau. Roedd nwyddau'n cael eu cadw yma cyn eu hanfon ymlaen ar unrhyw un o'r ddwy lein.  
 

Yn 1887 adeiladwyd lifft er mwyn mynd â’r teithwyr a'u bagiau o un orsaf ac i fyny i'r llall. O 1889 ymlaen yr enw ar Orsaf Llechryd oedd Builth Road Low Level (Gorsaf Lefel Isel Ffordd Llanfair-ym-Muallt).

Yn y map hwn o 1888 gallwch weld Railway Terrace (Teras y Rheilffordd). Stryd oedd hon a gafodd ei hadeiladu yn arbennig ar gyfer y gweithwyr ar y rheilffordd a'u teuluoedd. Tua 1890 adeiladwyd stryd arall a'i galw'n Wye View Terrace,(Teras Trem yr Afon Gwy). Mae'r stryd hon i'r chwith, ac yn union oddi ar y map.

Er i lein Canol Cymru gau yn y 1960au, mae'r lein Canolbarth Cymru yn dal i weithio heddiw

 
 

Yn ôl i ddewislen cludiant Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt