Llanfair-ym-Muallt
      Mapiau Fictoriaidd  
| Llanelwedd yn 1840 | ||
| Daeth y ddelwedd isod o fap y degwm ar gyfer plwyf Llanelwedd tua 1840 ar gyfer yr awdurdodau eglwysig. Yr adeg honno roedd rhaid i bawb dalu degwm neu dreth i'r eglwys yn ôl faint o eiddo oedd ganddo. Po fwyaf o eiddo oedd ganddo fwyaf fyddai'n rhaid iddo ei dalu. Amcan y mapiau oedd cofnodi pwy oedd yn berchen beth, ac maent yn rhoi llawer o wybodaeth am y gymuned ar y pryd. | ||
|  | ||
| Y peth cyntaf i sylwi arno yw'r ffordd dyrpeg sydd yn dod i lawr y cwm o Rhaeadr. Ar ddechrau cyfnod y Frenhines Fictoria roedd y ffordd yn dilyn yr afon ac yn dod yn agos at y bont sydd yn croesi'r afon am Llanfair-ym-Muallt. Mae'r ardal hon sydd ar draws yr afon o'r dref yn mynd i fod yn ardal brysur yn y dyfodol, ond yn ystod y cyfnod hwn dim ond Gro House sydd yma ac yn sefyll ar ei ben ei hun. | ||
| Mae pentref Llanelwedd ei hunan yn fach iawn a dim ond eglwys ac ychydig o fythynnod gwasgaredig a thollbyrth ar draws y priffyrdd i Landrindod ac i Faesyfed sydd yma. (I gael gwybod mwy am y tollbyrth ewch i weld y tudalennau Trafnidiaeth) | ||
| Mae Neuadd Llanelwedd ar ei ben ei hunan ac yn ei dir ei hun, mae'n gartref i dirfeddiannwr lleol a fyddai'n ddyn pwysig yn 1840. Erbyn hyn mae'r ardal sydd o amgylch y Plas yn safle ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru. |