Llanfair-ym-Muallt
Cludiant
Y Ffyrdd Tyrpeg | ||
Roedd Ymddiriedolaethau'r Tyrpegau wedi creu rhwydwaith o ffyrdd newydd ar hyd a lled y sir. Roedd tollbyrth wedi'u codi mewn mannau ar hyd y ffyrdd, ac roedd rhaid i deithwyr stopio a thalu toll neu dâl wrth y tollborth cyn mynd ymlaen i deithio ar y darn nesaf o'r ffordd. Roedd costau'r doll yn amrywio yn ôl pa fath o gerbyd oedd yn mynd drwy'r clwydi. Byddai ffermwr a gyrr o wartheg ganddo yn gorfod talu am bob un o'r anifeiliaid. |
Sir Frycheiniog oedd â'r tollau uchaf yn Ne Cymru, a byddai ffermwr oedd yn dod ag anifeiliaid i'r farchnad yn gorfod talu am bob anifail fwy nag unwaith wrth fynd drwy'r tollbyrth.Roedd tollbyrth ar bob un o'r priffyrdd i mewn i Llanfair-ym-Muallt ac felly byddai rhaid ichi dalu am ddod i'r dref, ac yna dalu am adael y dref, oni bai eich bod yn cerdded. (Mae'r map yn dangos tollborth y dwyrain yn Llanfair-ym-Muallt tua 1840.) Roedd y ffermwyr
a’r porthmyn a oedd yn arfer gyrru gwartheg am filltiroedd
ar draws gwlad wedi dechrau defnyddio'r llwybrau mynyddig er mwyn osgoi
talu ffioedd uchel ymhob tollborth a oedd ychydig o filltiroedd oddi wrth
ei gilydd. |