Llanfair 
      ym Muallt
      yn yr oes Fictoria 
| Neuadd y Farchnad ar lan yr Afon Gwy | ||
| Yn yr engrafiad sydd ar y dudalen 
        hon gallwch weld golygfa o'r brif groesfan ar draws yr Afon 
        Gwy yn Llanfair-ym-Muallt fel roedd hi'n edrych o ochr y bont 
        sydd yn wynebu i fyny'r afon.  | 
| Engrafiad 
        o bont Llanfair-ym-Muallt  |  | |
| Mae'r 
      Neuadd y Farchnad hon yn un o ddwy a gafodd eu hadeiladu yn y dref yn 1876. 
      Dywedir yn aml mai hwn yw'r adeilad gorau yn y dref. Mae gan y neuadd do serth a thwr cloc sydd â phig, a ffenestri addurnedig. Ers 1842 bu llawer o sôn am godi adeilad marchnad newydd ar lan yr afon, ond ni chafodd ei agor hyd fis Tachwedd 1877. Yn union fel llawer o adeiladau eraill yn Llanfair-ym-Muallt, y cerrig lleol a ddefnyddiwyd i'w codi, cerrig o'r chwarel gyfagos yn Llanelwedd ar yr ochr arall i'r Afon Gwy. Mae hen adeilad y farchnad erbyn hyn yn gartref i Ganolfan Celfyddydau Glannau Afon Gwy. . | ||