Llanfair
ym Muallt
yn yr oes Fictoria
Y bont dros yr Afon Gwy | ||
Fel llawer o'r trefi hynaf yn y wlad,
cafodd tref Llanfair-ym-Muallt ei chreu o gwmpas man croesi
bwysig ar yr afon . Roedd rhaid i deithwyr rhwng De a Gogledd
Cymru groesi'r Afon Gwy, lle roedd y bont yn cysylltu Sir Frycheiniog
a Sir Faesyfed. |
Mae tref Llanfair-
ym-Muallt ar ochr Sir Frycheiniog o'r Afon Gwy |
i Lanelwedd |
Yn
y llun yma gallwch weld yr olygfa wrth edrych o ogledd-ddwyrain
y dref, i lawr yr afon o'r bont. Mae Llanelwedd ar yr ochr arall i'r bont,
ac ar y dde. Mae prif ran tref Llanelwedd yng nghanol y llun, y tu hwnt
i fwâu'r bont. Cafodd y llun hwn ei dynnu cyn adeiladu Neuadd y Farchnad, sydd erbyn hyn yn Ganolfan Celfyddydau Glannau Gwy. Cafodd y Neuadd ei hadeiladu ar ochr Sir Frycheiniog o'r bont (chwith) yn 1877. Mewn llun arall yn y gyfres hon gallwch weld y bont ar ôl i Neuadd y Farchnad gael ei hadeiladu, ac wrth edrych i fyny'r afon. Yn wreiddiol dim ond lle i un drol a cheffyl oedd ar y bont. Ond cafodd y bont ei lledu ar gyfer dwy lôn o draffig yn 1925. . |
||