Llanfair-ym-Muallt
Ennill bywoliaeth
  Masnachwyr: Griffiths - Price  
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf

extract from Pigot's directory, 1835Hefyd, yn y rhan yma o'r rhestr o'r masnachwyr sydd yn Pigot's Directory 1835, mae yna fusnesau sydd yn anghyffredin heddiw.

Y dilledydd (draper) oedd y dyn neu'r wraig oedd yn gwerthu defnyddiau brethyn. Rhywun yn gwerthu defnydd oedd y sidanwr (mercer) hefyd, ond roedd yn gwerthu defnyddiau drutach fel sidanau. Roedd hyn yn bwysig pan oedd llawer o bobl yn gwneud ac yn trwsio eu dillad eu hunain.

Sylwch ar y nifer o bobl oedd wrthi'n gwneud neu'n gwerthu hetiau. Un sy'n gwneud bob math o hetiau yw'r hetiwr (milliner) . Mae yna lawer o bobl yn gwerthu a gwneud hetiau gwellt a bonedi. Anaml iawn y gwelwch chi unrhyw un mewn hen ffotograff o oes Fictoria sydd heb rywbeth ar ei ben. .

Yn y rhestr hon mae Roger Jones yn cael ei alw'n 'brazier and plumber'(gof pres a phlymwr). Gof pres yw rhywun sydd yn gwneud pethau metel o'r metel efydd (pres). Roedd pres yn cael ei ddefnyddio i wneud lampau a byliau (nobiau) drysau a llawer o bethau eraill. Roedd pres yn cael ei ddefnyddio hefyd i sodro darnau o haearn at ei gilydd.

Roedd y crwynwr (fellmonger) yn trin crwyn anifeiliaid. Roedd ef a'r barciwr a'r triniwr lledr
( tanner and currier ) yn gwneud lledr o'r crwyn. Roeddent yn
cyflwyno gwasanaeth pwysig yn oes Fictoria.

 

Sylwch ar faint o fasnachwr oedd yn cynnig mwy nag un gwasanaeth er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd mewn ardal fach wledig.

Ar gyrion Llanfair-yn-Muallt, yn Nant yr Arian, roedd yna felin a bythynnod bach i nyddwyr . Mae enw Charles Lawrence ar y rhestr uchod , mae'n debyg mae ef oedd yn gofalu am y busnes. Byddai'r nyddwyr wrthi'n gweithio ar fframiau gwau a byddent yn cael eu talu yn ôl pa sawl darn o ddefnydd roeddent wedi ei nyddu.

 
  Rhagor o fasnachwyr o ardal yn 1835  
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoliaeth Llanfair-ym-Muallt

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair-ym-Muallt